CAFFI CYNNES, CROESAWGAR
AR LAN Y MÔR, YN DINAS DINLLE.
Ethos y caffi yw i ddod a bwyd cartref a thymhorol i'r cymuned ar led. Mae tim cryf o gogyddion yn dod a blasau a haenau o flasau wedi ei ysbrydoli gan gynyrch lleol cymreig gyda 'pinch' o ysbrydoliaeth gan ein anturiaethau oll i lunio bwydlen lliwgar a blasus.
Cownter llawn o gacenau cartref a detholiad o opsiynau GF a fegan yn ddyddiol. Gyda trwydded llawn ma'r caffi yn gweini y gora' o goffi lleol yn y dydd a bar llawn yn y nos i achlysuron a dathliadau acw- neu Mimosa i gyd fynd a'n brecinio dyddiol ni. Am fwy o fanylion am ein Clwb Swper misol , Nosweithia' Braf a digwyddiadau nos, ewch i'n adran Digwyddiadau ar y safle.
ORIAU
CAFFI BRAF
MAWRTH - SADWRN 10:00 - 16:00
SUL 10:00 - 15:00
“Ma'r diwrnod yn dechra' acw WRTH Doesi ein bara brown a'n Focaccia, pastri a detholiad o 'specials' am y diwrnod.”
BWCIO BWRDD YN
BRAF
i logi bwrdd acw, ffoniwch y caffi rhwng 9-5 Dydd MErcher i Ddydd Sul.
Ein prif amcan yn Caffi BRAF yw bwyd tymhorol, cartref a lleol. Mae dignoedd o gyflenwyr lleol anhygoel o'r adral yn cyfranu at ein bwydlen yn Dinas Dinlle.
Poblado, Nantlle. Coffi o ansawdd wedi ei rostio yn yr hen barics yn Nantlle. Mi fyddwn yn defnyddio y Blend Espresso acw yn ddydiol, yn cyfuno’r gorau o’n coffi o America Latina gyda ffa melys o Ddwyrain Affrica. Y canlyniad yw coffi unigryw, llawn-gorff ag amlbwrpas sy'n gweithio fel ‘shot’ unigol, neu’n cyfuno’n hyfryd gyda llefrith. Ma'n bosib prynnu bag i fynd adref hefyd yn cynnwys rhai o'i 'blends' arbennig a decaf.
Llysiau Organig lleol gan Henbant, Clynnog Fawr yn wythnosol o fis Mai- Rhagfyr. Maent hefyd yn defnyddio dulliau Paramaethu, Rheolaeth Holistig, a rhai hen ffyrdd mwy traddodiadol hefyd, i fynd ati i gynnal fferm atgynhyrchiol. Eu nod ar y cyfan yw cynhyrchu pridd a bwyd a dod â’r gymuned ynghyd.
Wyau Desach, Aberdesach. Wyau euraidd lleol wedi ei plethu drwy'r fwydlen i gyd o'n brecinio i'n cacenau di-ri. Fferm deuluol sydd wedi bod yn help mawr i ni yn Dinas Dinlle.
Fungi Foods, Waunfawr. Madarch lleol wedi ei tyfu yng nghesail y mynyddoedd yn Waunfawr. Dewis eang o fadarch gwahanol sy'n gynaliadwy, amlbwrpas a blasus tu-hwnt. Seren y sioe yn ein pryd Stac Rosti a 'Specials' achlysurol.
ETHOS EIN
CYFLENWYR
“THE 49 BEST PLACES TO EAT THIS SUMMER”
YN FALCH O GAEL EI’N HENWEBU GAN TOMOS PARRY, COGYDD A CREADWR BRAT A’I FENTER NEWYDD MOUNTAIN. PLESER CAEL EIN ENWI FEL UN O’R PEDWAR BWYTAI ANNIBYNOL YNG NGHYMRU.
BRECINIO
Ffordd perffaith i ddechra'r diwrnod acw. Bara Cartref wedi ei bobi yn ddyddiol a phopeth wedi ei wnud ar y safle o'r rosti i'r ffa pob cartref. Ma'r fwydlen yn newid i adlewyrchu cynnyrch a thywydd y tymor.
CREMPOGAU
risáit ei’n hunain o grempoga’ ysgafn a blasus. Yn dod fesul 3 mewn stac. Perffaith! Gofynnwch wrth y cownter am gytew di-glwten neu Fegan. Ar gael bob penwythnosa drwy’r gwylia ysgol. Iym!















