STIWDIO

Stiwdio olau, braf ar lan y môr.

yn y gofod yma rydym yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau sy'n amrywio o sesiynau ffitrwydd bywiog, ritrîts ymlaciol i weithdai diddorol a phrofiadau nofio gwyllt cyffrous.

Mae’r stiwdio hefyd ar gael i'w logi.

Sesiynau 1 i 1 hefo Cadi - Hyfforddwr Personol cymwysedig gyda dros 20 mlynedd o brofiad.

Cyrraedd targedau ffitrwydd personol gyda phwyslais ar wella iechyd a’r ffordd rydych yn teimlo. 

Cysylltwch i holi am sesiwn

£350 am 10 sesiwn 1-1

£420 am 10 sesiwn grŵp (2 i 4 person)

HYFFORDDI PERSONOL

Digwyddiad arbennig i unrhyw un sydd isho profi 'Nofio Gwyllt'.

Mae’r digwyddiad yn fore cyfan o sgyrsiau, bwyd a diod maethlon yn ogystal â Nofio Gwyllt a cherdded dan arweiniad gydag arbenigwr. Bydd BRAF yn cynnal gweithdy ymlaciol yn llawn gwybodaeth buddiol am Nofio Gwyllt i'ch paratoi ar gyfer ‘dip' llawn egni yn y môr tu allan. Bydd y gweithdy'n ofod diogel i ymlacio a mwynhau bore gaeafol ynghyd â sesiwn ymestyn ac ymlacio, ac i orffen: cinio cynnes.

10:30YB - 1:30YP

£45 Y PEN

NOFIO GWYLLT

Cwrs ffitrwydd ac iechyd sy’n galluogi chi gryfhau, codi lefelau ffitrwydd a gwella hyblygrwydd y corff. Mae’r cynllun yn cynnwys syniadau a chyngor ar faeth ac tips byw yn iach.

Sesiwn talu wrth fynd - £7.50

BWTCAMP BRAF

YOGA BOLIAU BRAF

Cwrs ar gyfer merched beichiog

Arweinir y sesiynau gan Leisa Mererid, hyfforddwr profiadol a cymwysedig

Sesiwn ymlaciol sy’n cynnwys symudiadau a dulliau anadlu sy’n fuddiol i’r corff â’r meddwl tra yn feichiog 

“mae o wedi bod yn un o fy hoff beth i neud tra yn feichiog” (geiriau caredig gan gwsmer)

Dydd Mawrth 18:00-19:00

Cwrs 5 wythnos £50

BYGI HEINI BRAF

Cwrs ffitrwydd ôl geni

Cyfle i fynd ar babi am dro yn y pram/bygi ar hyd llwybr yr arfordir wrth adfer y corff wrth neud symudiadau sy’n fuddiannol ar ôl geni. Mae’r sesiynau yn cynnwys symudiadau sydd codi curiad y galon ac yn gweithio'r cyhyrau mewn ffordd sy’n addas a diogel. Cyfle i gymdeithasu a chael panad yn y caffi ar ôl y sesiwn.

Dydd iau 10:00-11:00

Cwrs 5 WYTHNOS £36

FFIT A FFISIO

Cwrs o sesiynau ffitrwydd ar gyfer pobl sydd ag anafiadau, cyflyrau meddygol neu boenau ‘wear and tear’ bywyd.

Fflur – Ffisiotherapydd o Protec sy’n arwain y sesiynau gyda’r amcan o godi lefelau ffitrwydd y grŵp ac i  wneud tasgau dyddiol yn haws iddynt.

Dydd Gwener 10:00-11:00

Cwrs 5 wythnos £45

RITRÎT

MAMAU PRYSUR

Yda’chi’n fam brysur sydd angen brêc? Dewch draw i Braf i gael pnawn i chi eich hun. Mi Fydd y ritrît yn cynnwys 'workout' ar y traeth, tips a syniadau ar sut i gael y maeth cywir mewn i'ch bywyd gan Angharad Nutrition, sgwrs ar sut i reoli 'stress' a gorffen hefo cinio blasus â choctel ffresh! Bachwch ar y cyfle perffaith i drîtio’ch hunain i ddiwrnod o hunan ofal hefo ni yma yn Stiwdio BRAF.

11:00YB - 2:00YP

£45 Y PEN

RITRÎT

Ritrît penwythnos heddychlon yn Ninas Dinlle. 

Mwynhewch prydau blasus, iachus, ymlacio gyda theithiau cerdded hamddenol yn yr amgylchoedd hardd, ac ailgysylltu â natur i gael profiad adfywiol.

DAIONI BRAF

YDA’CHI YN RHYWUN sydd â diddordeb mewn iechyd a lles, neu yn awyddus i ddysgu am sut i deimlo fel y fersiwn gorau a mwyaf egniol ohonA’ CHI eICH hunain?

Diwrnod Daioni Braf:
  • Sgwrs, tips a chyngor ar faeth gan y maethegydd ‘angharad nutrition’
  • Sesiwn a tips am ffitrwydd a pa fath fyddai o fydd i chi gyda Cadi Fôn – hyfforddwr personol
  • Taith Gerdded fyr ar hyd llwybr yr arfordir
  • Sesiwn ymestyn ac ymlacio
  • Llyfryn electronig yn cynnwys resipis a tips iachus
  • Diodydd a chinio blasus, maethlon a thymhorol o Gaffi Braf

£55 Y PEN

Ymunwch â'r perchennog busnes Sioned Owen, y ddynes ysbrydoledig tu ôl i 'Tanya Whitebits,' ar gyfer cyrsiau marchnata deinamig yn BRAF. 

Os ydych chi'n cychwyn busnes neu'n entrepreneur profiadol, mae cyrsiau Sioned yn cynnig mewnwelediadau amhrisiadwy ar gyfer twf busnes, wedi'u teilwra i rymuso berchnogion busnes i feistroli strategaethau marchnata effeithiol.

CYRSIAU MARCHNATA

DOSBARTHIADAU

YCHWANEGOL

IOGIS BACH

Ioga Mam a Babi

Dydd Mercher 10yb

Tylino Babi

Dydd Mercher 11yb

Ioga Beichiog

Dydd Sul 9yb

Cysylltwch hefo Eleri

iogisbach@gmail.com

IOGA hefo gwen lasarus

Nos Lun 6pm

Cysylltwch hefo Gwen

gwen_lasarus@yahoo.co.uk